Pwyll Pendefig Dyfed
| Cymraeg | English Translation |
|---|---|
|
Pwyll Pendefig Dyfed a oedd yn
arglwydd ar seith cantref Dyfed. A threiglweith ydd oedd yn Arberth, prif lys iddaw, a dyfod yn ei fryd ac yn ei feddwl fyned i hela. Sef cyfeir o'i gyfoeth a fynnei ei hela, Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a ddoeth hyd ym Mhenn Llwyn Diarwya, ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth yn ieuenctid y dydd cyfodi a orug, a dyfod i Lynn Cuch i ellwng ei gwn dan y coed. A chanu ei gorn, a dechreu dygyfor yr hela, a cherdded yn ol y cwn, ac ymgolli a'i gydymdeithon. |